P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jane Eleanor Seddon Barraclough, ar ôl casglu 1,314 o lofnodion ar-lein, ac 4,214 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 5,528 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym wedi ein llorio gan benderfyniad Betsi Cadwaladr i gau ‘dros dro’ ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn. Rydym am i’r ward gael ei hailagor ar unwaith.

Mae cau'r ward hon heb unrhyw ymgynghori na hysbysiad yn gam bwriadol ac anhryloyw; mae’n gamddefnydd o wasanaeth cyhoeddus ein cymuned.

Gallwch ein cefnogi drwy lofnodi'r ddeiseb. Diolch am eich cefnogaeth.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cafodd staff a chleifion wybod ar y dydd Iau y bydden nhw'n cael eu symud i ysbyty Dolgellau erbyn y dydd Mawrth dilynol.

Dim rhybudd, dim ymgynghori, dim trafod, dim rhesymeg.

Pe na bai staff am symud i Ddolgellau bydden nhw heb swydd. Mae Tywyn yn ysbyty newydd sydd ag offer a chyfleusterau rhagorol. Mae gan ein hysbyty staff gwych yn gweithio ynddo. Mae ein perthnasau a’n ffrindiau wedi cael y gofal gorau posibl y gallai rhywun ddymuno ei gael.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad yw'n gallu recriwtio digon o staff i lenwi swyddi. Rydym am weld y dystiolaeth sydd gan y bwrdd iechyd sy’n dangos eu bod mewn gwirionedd wedi mynd ati i recriwtio staff ar gyfer ein hysbyty.

Mae'r ysbyty hwn yn adnodd hanfodol yn ein cymuned. Os gwelwch yn dda, cefnogwch ein hymgyrch.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyfor Meirionnydd

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru